Dagon

Duw Semitaidd a addolid yn y Dwyrain Canol oedd Dagon neu Dagan (Hebraeg: דגון), efallai yn dduw amaeth a grawn. Fe'i addolid gan yr Amoriaid a thrigolion dinasoedd Ebla ac Ugarit. Roedd yn un o dduwiau pwysicaf y Ffilistiaid, efallai y pwysicaf un.

Ceir y cofnod cyntaf o'i enw tua 2500 CC yn nhestunau Mari ac yn enwau personol yr Amoriaid. Roedd teml fawr iddo yn Ugarit tua 1300 CC. Yn yr Hen Destament, mae'n ymddangos fel prif dduw y Ffilistiaid, a dywedir i Samson ddinistrio ei deml yn Gaza. Dywedir i Arch y Cyfamod gael ei chipio oddi wrth yr Iddewon gan y Ffilistiaid, a'i chadw yn nheml Dagon yn Ashdod.

Ceir un traddodiad fod Dagon ar ffurf pysgodyn.


Developed by StudentB